Dyma nofel gyntaf Dewi Prysor ers y drioleg lwyddiannus, Madarch, Brithyll a Crawia. Mae Lladd Duw yn nofel swmpus, wedi'i lleoli yn Llundain a thref glan y môr ddychmygol. Mae'n ymdrin â chwalfa gwareiddiad o safbwynt y werin bobl. Nofel ddwys-dywyll ond fel sy'n nodweddiadol o'r awdur, ceir digon o hiwmor ynddi hefyd. -- Cyngor Llyfrau Cymru